Gweithgaredd
Rydych wedi penderfynu sefydlu busnes twristiaeth fel unig fasnachwr. Bydd eich busnes naill ai’n berthnasol ar gyfer trafnidiaeth neu lety; dewiswch un o’r rhain yna gwnewch waith ymchwil er mwyn eich cynorthwyo i gwblhau'r tabl islaw.
- Beth yw enw’ch busnes?
- Nodwch ble bydd y busnes yn cael ei leoli a pham?
- Pa gynhyrchion ac/neu wasanaeth bydd eich busnes yn darparu?
- Oes gennych chi gystadleuwyr, a phwy ydyn nhw?
- Ble byddwch chi’n derbyn yr arian i gychwyn eich busnes?
- Beth yw’r manteision o sefydlu eich busnes fel unig fasnachwr?
- Beth yw’r anfanteision o sefydlu eich busnes fel unig fasnachwr?
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.1-Adnodd5.docx