Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Sefydliadau Trafnidiaeth

Mae trafnidiaeth yn bwysig iawn i’r diwydiant twristiaeth am ei fod yn galluogi twristiaid i gael mynediad i ble hoffent fynd; mae hefyd yn darparu swyddi eang ac amrywiol i bobl. Mae trafnidiaeth yn gallu digwydd yn yr awyr, ar dir neu ar y môr. Mae yna nifer o sefydliadau sy’n gweithredu o fewn y DU sy’n amrywio mewn maint a graddfa, o fach a chanolig i fawr neu ryngwladol.

Gweithgaredd 1

Pwy ydyn ni?

Mae yna sawl logo darparwyr trafnidiaeth adnabyddus sy’n gweithredu o fewn y DU islaw. Gallwch chi ddarganfod pa logo sy’n cyd-fynd â’r math cywir o ddarparwr trafnidiaeth?

Gweithgaredd 2

Mae yna nifer o ddarparwyr trafnidiaeth sy’n gweithredu yn y DU sy’n amrywio yn ôl maint a graddfa; o raddfa fach neu ganolig i ddarparwyr graddfa fawr neu ryngwladol. Golyga hyn bod gan ddarparwyr trafnidiaeth wahanol ffurfiau o berchenogaeth busnes.

Gallwch chi adnabod y ffurf gywir o berchenogaeth ar gyfer y darparwyr trafnidiaeth islaw?

Efallai bydd rhaid cynnal ychydig o waith ymchwil.