Busnes Twristiaeth

MPA 1.2 Esboniwch amcanion sefydliadau twristiaeth

Amcanion amgylcheddol

Fel mewn sawl diwydiant arall, dros yr 20 mlynedd diwethaf mae sefydliadau twristiaeth wedi dod yn fwy ymwybodol o faterion amgylcheddol ac yn gosod ystod o amcanion amgylcheddol. Mae hyn yn sicrhau bod y sefydliadau yn parhau i wneud y mwyaf y gallan nhw i amddiffyn yr amgylchedd.

Mae yna amrywiaeth eang o dermau sy’n cael eu defnyddio sy’n ymwneud â phryderon ac arferion amgylcheddol.

Gweithgaredd 1

Ar ôl cwblhau’r weithgaredd uchod, dewiswch 3 o’r materion er mwyn cynhyrchu tri amcan amgylcheddol a allai gael eu defnyddio gan atyniadau mawr fel parciau thema.

Gweithgaredd 2

Mae yna nifer o faterion amgylcheddol sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd. Gwelir rhai o’r materion hyn yn y tabl isod.

Llusgwch y termau isod i’w safle cywir yng ngholofn chwith y tabl.

Gweithgaredd 3

Ar ôl cwblhau’r tabl uchod, dewiswch 3 o’r materion er mwyn cynhyrchu tri amcan amgylcheddol a allai gael eu defnyddio gan westy mawr.

Gweithgaredd 4

Darllenwch yr wybodaeth isod am westy yng ngwlad Groeg sydd wedi derbyn gwobr am ei arferion amgylcheddol.

Mae’r Castelli yn westy dymunol traddodiadol gyda chyfleusterau modern. Mae’r gwyrddni hardd sy’n amgylchynu’r gwesty yn cyfrannu at y ddelwedd unigryw. Bydd croeso cynnes yn disgwyl amdanoch chi yn y Castelli.

Wedi’i leoli yn Agios, lleoliad tawel ym mae Laganas ble mae crwbanod y môr yn dodwy eu hwyau, mae’r gwesty teuluol hwn yn cynnwys ardal gyda phwll nofio â bar byrbrydau sy’n cynnig prydau blasus a meze Groegaidd. Mae bwffe brecwast yn cynnwys cacennau cartref, wedi’u gwneud gan ddefnyddio wyau organig o fferm bersonol y gwesty. Mae yna far cyntedd a chornel rhyngrwyd.

Mae’r gwesty yn gweithio tuag at un gôl benodol: creu profiad gwyliau cofiadwy.

  • Llogi beic a marchogaeth trefnedig ar lwybrau pwrpasol
  • Gwerthfawrogi cwsmeriaid sy’n dychwelyd
  • Lleoliad arbennig
  • Yn defnyddio cynnyrch yn uniongyrchol o fferm bersonol y gwesty
  • Cyfle i ymweld â chrwbanod y môr heb amharu ar yr amgylchedd
  • Gwasanaeth personol gyda dim ond 54 ystafell

Wedi darllen yr wybodaeth, awgrymwch ddau amcan amgylcheddol a allai gael eu defnyddio gan y gwesty.