Busnes Twristiaeth

MPA 1.3 Canllaw i ganolfannau

Mentrau marchnata

Nawr bod gennych rhywfaint o wybodaeth am beth sydd ynghlwm â marchnata, gallwch chi ddechrau deall sut mae sefydliadau twristiaeth yn gallu defnyddio mentrau marchnata i’w helpu nhw i gyflawni eu hamcanion.

Mae’n bwysig deall bod marchnata yn broses barhaus. Os yw sefydliadau yn stopio marchnata, maen nhw’n debygol o golli cwsmeriaid a dod yn llai cystadleuol.

Ar yr un pryd, mae marchnata yn costio llawer o arian, ac nid yw llawer o sefydliadau twristiaeth yn gallu fforddio gwario miloedd o bunnoedd ar hysbysebu drud ar y teledu neu ar y radio.

Gweithgaredd

Dewiswch bedwar o’r sefydliadau uchod ac eglurwch pa fentrau marchnata eraill y gallai fod yn addas ar eu cyfer. Trafodwch eich atebion gyda’ch cyfoedion.