Ceisiwch weld faint o’r cyfrifiadau yn y cwestiynau islaw gallwch chi gael yn gywir. Gallwch chi ddefnyddio cyfrifiannell.
Gweithgaredd
Mae Gwesty’r Llew Du yn anelu i wella eu sgôr gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r gwesty wedi cyflogi arbenigwr gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn hyfforddi eu gweithwyr. Bydd y gost yn £400 y diwrnod am dri diwrnod.
Cyfrifwch gyfanswm y gost o gyflogi arbenigwr gwasanaeth i gwsmeriaid am y tri diwrnod
Amcan perchenogion y gwesty yw i’r hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid gynyddu eu gwerthiannau bar a bwyty 15% yn 2018. Cyfanswm gwerthiannau 2017 oedd £150,000.
Os yw’r perchenogion yn cyrraedd eu taged, pa un o’r ffigyrau canlynol sy’n gywir?
Astudiwch y siart canlynol sy’n dangos yr adolygiadau cyntaf ar ôl yr hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid yng Ngwesty’r Llew Du.
Cyfrifwch gyfanswm y nifer o adolygiadau.
Astudiwch y siart canlynol sy’n dangos yr adolygiadau cyntaf ar ôl yr hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid yng Ngwesty’r Llew Du.
Cyfrifwch ganran y:
Adolygiadau ardderchog
Astudiwch y siart canlynol sy’n dangos yr adolygiadau cyntaf ar ôl yr hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid yng Ngwesty’r Llew Du.
Cyfrifwch ganran y:
Adolygiadau gwael
Study the following chart which shows the first reviews after customer service training at the Black Lion Hotel.
Ar ôl 160 o adolygiadau ar gyfer y gwesty, roedd 65% yn Ardderchog
Sawl adolygiad allan o’r 160 oedd yn Ardderchog?
Mae rheolwr bar a bwyty Gwesty’r Llew Du wedi cyflwyno cerdyn ffyddlondeb lleol sy’n rhoi 12.5% oddi ar bil bwyty i gwsmeriaid. Cyfanswm bil bwyty teulu’r James yw £110.80.
Cyfrifwch bil deulu’r James ar ôl y gostyngiad o 12.5% o’r cerdyn ffyddlondeb lleol.