Mae gweithgareddau twristiaid yn gallu creu effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, ac mae sefydliadau twristiaeth yn ymwybodol bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod yr effeithiau hyn yn cael eu lleihau cymaint ag sy’n bosib. Heddiw, mae pobl yn ymwybodol o’r angen am ddulliau cynaliadwy ym maes twristiaeth.
Mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth fod yn ymwybodol o’r amrywiaeth gynyddol o reoliadau a deddfau sy’n berthnasol ar gyfer yr amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys ailgylchu neu leihau gwastraff a lleihau allyriadau carbon o gerbydau. Mae bron pob ffurf o drafnidiaeth, fel bysiau, llongau mordeithio ac awyrennau yn cynhyrchu rhyw fath o allyriadau sy’n llygru’r atmosffer. Mae llywodraethau yn gosod rheolaethau mwy llym ar sefydliadau twristiaeth ynglŷn â lefelau allyriadau.
Un enghraifft o’r mesurau sydd wedi’u cymryd er mwyn lleihau effaith amgylcheddol allyriadau yw i gyrchfannau mawr gynhyrchu canllaw, ac yn aml, rheolau ar gyfer cwmnïau bysiau a gyrwyr sydd eisiau dod â phartïon bysiau i’r atyniad. Mae partïon bysiau yn dod â llawer o incwm i gyrchfannau, ond mae injans disel mawr yn cynhyrchu llawer o lygredd.
Isod, gwelir un enghraifft o ganllaw sy’n cael ei ddarparu, wedi’i gymryd o wefan Cyngor Dinas Caerdydd.
Parcio bysiau – Cyngor Dinas Caerdydd
Mae yna ardaloedd gollwng a chodi ar gyfer y bysiau wrth ymyl y mwyafrif o’r prif atyniadau, gyda pharcio mwy hir dymor ar gael yn agos i ganol y ddinas.
Mae maes parcio bysiau neilltuedig oddi ar y stryd gyda theledu cylch cyfyng 24-awr ar gael yn agos i ganol y ddinas a Gerddi Sophia. Mae’r maes parcio bysiau sy’n cael ei reoli gan y cyngor hefyd â chyfleusterau toiled, ac yn arhosiad hir 7 diwrnod y wythnos. Nodwch mai'r nifer o wagleoedd parcio o’r 1af o Awst yw 4.
Costau: £4.20 yr awr, £15.50 y diwrnod
Sut i’n darganfod ni: Gerddi Sophia (oddi ar stryd Cathedral Road) CF11 9HW.
Mae ystafell orffwys y gyrrwr a thoiledau cyhoeddus ar agor rhwng 8:00 yb a 4:00 yh, 7 diwrnod y wythnos. Ar gyfer gwybodaeth bellach ac archebu (sydd ar gael ar gyfer diwrnodau digwyddiadau yn unig), cysylltwch â ni. Mae yna hefyd wagleoedd parcio bysiau arhosiad byr ar y stryd mewn ardaloedd sy’n gyfleus ar gyfer mynd i ganol y ddinas a Bae Caerdydd.
Gweithgaredd 1
Ymchwiliwch 4 cyrchfan arall, yn cynnwys un Parc Cenedlaethol ac un ddinas yn Ewrop, er mwyn darganfod pa ganllawiau a/neu reoliadau sydd wedi’u gosod ar gyfer gyrwyr bysiau. Dylech chi grynhoi eich darganfyddiadau isod. Dewis arall yw cynhyrchu cyflwyniad PowerPoint.
Yn ogystal â chael eu gorfodi i amddiffyn yr amgylchedd drwy reolaethau a deddfwriaeth, mae sefydliadau twristiaeth hefyd wedi sylwi bod yn rhaid iddyn nhw ddangos eu bod yn pryderu am yr amgylchedd a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o be maen nhw’n ei wneud.
Un enghraifft yw Merlin Entertainments, sydd berchen ar Alton Towers, Byd Antur Chessington a Pharc Thorpe.
Gweithgaredd 2
Teipiwch: Merlin – Being a Force for Good mewn i beiriant chwilio. Dylech ddod o hyd i ddogfen sy’n disgrifio pa fesurau mae Merlin wedi’u cymryd er mwyn amddiffyn yr amgylchedd.
Darllenwch drwy’r wybodaeth a cheisiwch adnabod 10 peth sy’n dangos sut mae Merlin yn amddiffyn yr amgylchedd.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.1-Adnodd5.docx