Mae’n bwysig deall bod yna gynnydd cyffredinol wedi bod mewn twristiaeth dros y 50 mlynedd diwethaf neu fwy. Mae rhai o’r rhesymau yn cynnwys:
- Gwell ymwybyddiaeth – trwy hysbysebu a rhaglenni teledi yn rhoi syniadau a gwybodaeth am ble gallan nhw fynd ar wyliau
- Cynnydd mewn perchenogaeth ceir – yn ei gwneud hi’n haws i deithio i gyrchfannau twristiaeth, yn enwedig twristiaeth ddomestig
- Gwelliannau mewn technoleg – mae technoleg trafnidiaeth wedi gwneud amserau siwrneiau llawer cyflymach ac mae gwybodaeth am dechnoleg wedi ei gwneud hi’n haws i archebu teithiau hedfan, gwyliau a chynhyrchion eraill
- Mwy o amser hamdden – mae pobl nawr gyda mwy o wyliau taledig ac yn gallu teithio’n fwy aml
- Mwy o gyfoeth – yn gyffredinol, mae pobl mewn gwell sefyllfa ariannol nag yr oedden nhw o’r blaen, ac mae ganddyn nhw incwm gwario uwch
Incwm gwario = y cyfanswm o arian sydd gan berson yn weddill i’w wario ar ôl iddyn nhw dalu trethi.
Felly, yn syml iawn, os yw person yn cael ei dalu £800 yr wythnos ac yn talu £100 mewn trethi, eu hincwm gwario yw £700.
Os oes cynnydd mewn trethiad, bydd incwm gwario yn cwympo, neu’r ffordd arall.
Mae yna nifer o eitemau mae’n rhaid i berson neu deulu brynu allan o’u hincwm gwario cyn meddwl am bethau moethus neu bethau ychwanegol maen nhw’n gallu fforddio. Mae’r eitemau hyn yn cynnwys rhent neu morgais ar y cartref, costau gwresogi, bwyd a diod, cyrraedd a gadael gwaith, a.y.b. Dim ond ar ôl i’r eitemau hyn gael eu talu y gall pobl ddechrau meddwl os gallan nhw fforddio diwrnodau allan neu wyliau.
Nid yw’r rhan fwyaf o gynhyrchion sefydliadau twristiaeth yn gynhyrchion sydd eu hangen i fyw bob wythnos. Mae modd fforddio gwyliau a.y.b. os yw holl angenrheidiau bywyd wedi’u talu amdanyn nhw. Ym Mhrydain fodern, mae rhai teuluoedd yn gallu fforddio dau neu dri gwyliau bob blwyddyn, ond mae rhai teuluoedd yn ei gweld hi’n anodd talu am ambell i ddiwrnod allan.
Er bod y rhesymau am y twf mewn twristiaeth sy’n cael eu cynnig uchod yn dynodi bod cynnydd mewn incwm gwario wedi cynyddu dros y degawdau diweddar, gall incwm gwario teulu gynyddu neu leihau o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn yn gallu effeithio sefydliadau twristiaeth mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, gall teulu benderfynu nad ydyn nhw’n gallu fforddio pecyn gwyliau dramor, ond maen nhw’n penderfynu treulio wythnos mewn parc gwyliau yn y DU yn lle.
Mae incwm gwario yn cynyddu drwy:
- Weithio oriau ychwanegol
- Codiad mewn cyflog neu fonws
- Lleihau trethi
Mae incwm gwario yn lleihau drwy:
- Weithio llai o oriau
- Lleihad mewn cyflog
- Cynyddu trethi
Gweithgaredd 1
Ar gyfer pob sefyllfa yn y tabl isod, nodwch a yw’r teulu wedi gweld cynnydd neu leihad yn eu hincwm gwario.
Gweithgaredd 2
Mae llywodraeth y DU yn casglu nifer mawr o wybodaeth am gyflogau, gwariant, a.y.b. gan bobl sy’n byw yn y wlad. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r wybodaeth mewn grwpiau safonol (neu gategorïau) o eitemau, ac nid yw’n cynnwys twristiaeth yn uniongyrchol.
Mae’r wybodaeth ar gyfer 2016 yn dangos bod gwariant cyfartalog cartref tua £530 yr wythnos, ac mae manylion y gwariant yma i’w weld yn y tabl isod – ond mae ychydig o wybodaeth ar goll!
Ceisiwch weld os ydych chi’n gallu amcangyfrif cyfanswm y gwariant ar gyfer pob categori lle nad oes ffigur, drwy ei ychwanegu i’r golofn. Cofiwch, dylai cyfanswm y gwariant fod mor agos i £528.90 ag sydd yn bosib.
Gweithgaredd 3
Nid yw twristiaeth yn cael ei ddefnyddio fel categori ar wahân. Allwch chi adnabod y pum categori a allai ymdrin â gwariant ar dwristiaeth? Llusgwch y pum categori i’r bocsys isod.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-2.1-Adnodd2.docx