Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.1 Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU

Lleoliad

Ymhle mae lle

I bob pwrpas, lleoliad cyrchfan twristiaeth yw ei safle daearyddol. Yn syml iawn, ble mae e...             

Gellir disgrifio lleoliad cyrchfan drwy:            

  • Nodi pa mor bell yw o drefi a dinasoedd ac ardaloedd eraill  
  • Dweud a yw ar yr arfordir, ger yr arfordir neu ar lan prif afon    
  • Defnyddio pwyntiau’r cwmpawd     
  • Dweud pa mor bell yw o draffordd, priffordd neu orsaf drenau   
  • Dweud faint o amser mae’n ei gymryd i’w gyrraedd

Gellir disgrifio lleoliad cyrchfan hefyd drwy ddweud pa mor hir mae’n ei gymryd i’w gyrraedd ar wahanol fathau o gludiant.     

Felly, sut gallech ddisgrifio lleoliad Alton Towers?

‘Mae Alton Towers yng nghanol y DU yn Swydd Stafford ac yn agos i ddinasoedd Manceinion a Birmingham. Mae’n cymryd rhyw 3 awr i yrru’r 150 o filltiroedd i Alton Towers o Lundain neu Gaerdydd; mae tua 50 milltir i’r de o Fanceinion. Mae’r orsaf drenau agosaf yn Uttoxeter, ac yn 40 munud i ffwrdd ar fws. Mae tua 30 milltir o Gyffordd 23 o’r M1 a thua’r un pellter o Gyffordd 15 yr M6.’

Gweithgaredd 1

Rhowch gynnig ar enwi’r cyrchfannau glan môr enwog yn y DU o’r disgrifiadau o’u lleoliadau isod. Efallai bydd angen i chi ddefnyddio atlas o’r DU neu fap ar-lein i’ch helpu.

  • Mae’r cyrchfan hwn tua 55 milltir i’r de o Ganol Llundain, ac fe’i cyrhaeddir ar yr M23/A23.  Mae ar arfordir de Lloegr. Mae tref Eastbourne i’r dwyrain, a Worthing i’r gorllewin.
  • Mae’r cyrchfan hwn ar arfordir gogledd-orllewin Lloegr. Mae i’r de o Gaerhirfryn a rhyw 50 milltir i’r gogledd o Fanceinion. Fe’i cysylltir â’r M6 gan yr M55.
  • Mae’r cyrchfan hwn tua 60 milltir i’r gorllewin o Lerpwl ar y ffyrdd, a’r brif ffordd fynediad yw’r A55. Mae ar arfordir Gogledd Cymru.
  • Mae’r cyrchfan hwn tua 100 milltir i’r de-orllewin o Lundain. Fe’i cyrhaeddir ar yr M3 ac mae yno brif orsaf drenau. Mae i’r gorllewin o Barc Cenedlaethol New Forest.
  • Mae’r cyrchfan ynys hwn oddi ar arfordir de Lloegr ac fe’i cyrhaeddir ar fferi o Portsmouth.  Mae i’r de o Southampton.
  • Mae’r cyrchfan hwn ar arfordir dwyreiniol Swydd Efrog. Mae tua 70 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Leeds ac ychydig i’r de o Barc Cenedlaethol Dyffrynnoedd Efrog.
  • Mae’r cyrchfan hwn ar arfordir gorllewin Cymru ym Mae Ceredigion. Mae’n cymryd tua dwy awr a hanner i yrru tua’r 100 milltir o Gaerdydd.