Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.3 Arweiniad i’r Ganolfan

Esboniadau

Mae angen yn awr i chi ddewis cyrchfan twristiaeth yn y DU a astudiwyd gennych i egluro sut mae nodweddion y cyrchfan yn apelio at wahanol fathau o dwrist. Bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth am nodweddion y cyrchfan ac ystyried sut a pham mae’r cyrchfan yn apelio at wahanol fathau o dwrist.              

Mae angen i chi lunio eglurhad, gan ganolbwyntio ar y rhesymau pam mae’r cyrchfan yn ddeniadol.

Wrth lunio eglurhad, mae’n hawdd defnyddio’r gair “oherwydd” yn rheolaidd. Er enghraifft: Mae’r cwmni hedfan yn gweini diodydd am ddim yn y dosbarth busnes oherwydd...

Mae’r wybodaeth isod yn rhoi syniadau am ymadroddion i’w defnyddio yn lle’r gair “oherwydd” yn rhy aml.

Yn lle ‘oherwydd’

Gellir defnyddio llawer o eiriau neu ymadroddion i ddechrau eglurhad. Y mwyaf cyffredin yw “oherwydd”, ond mae gan eraill eu defnyddiau. Dyma rai dewisiadau eraill a thrafodaeth am eu defnyddiau a’u manteision.                           

Am: Mae ‘am’ yn gwbl gyfystyr ag ‘oherwydd’ (er enghraifft, “Dewisodd beidio â mynd i weld y ffilm, am iddi gael adolygiadau gwael”).

O ganlyniad i: Mae’r ymadrodd hwn yn gweithio yn lle "oherwydd”, fel “O ganlyniad i’w ymyriad, ail-agorwyd yr achos a chanfuwyd eu bod yn ddieuog.”                     

Cyhyd â: Mae’r ffurf anffurfiol hon ar ‘oherwydd’ yn cael ei defnyddio i fynegi’r syniad, am fod un peth yn digwydd neu’n mynd i ddigwydd neu’n wir, y bydd peth arall yn bosibl, mewn datganiadau fel “Cyhyd â dy fod di’n mynd, a allet ti gasglu rhai pethau i mi?”                                                                  

Gan fod: Mae gan yr ymadrodd hwn yr un ystyr – a’r un ffurfioldeb – â ‘cyhyd â’.

O ystyried bod: Mae’r ymadrodd hwn bron yn unionfath ei ystyr i “cyhyd â” ac “am fod” a’u tebyg.

O achos: Mae hwn yn berthnasol yn benodol i egluro pam ddigwyddodd rhywbeth neu pam fydd yn digwydd neu na fydd yn digwydd, er enghraifft “O achos y ceisiadau niferus, ni allwn ymateb yn unigol i bob ymgeisydd.”

Yn sgil: Mae’r dewis hwn yn lle “oherwydd” yn gallu bod yn gymwys i ganlyniad cadarnhaol neu negyddol; “Yn sgil eich busnesau, rydym yn cael llawer o sylw digroeso” sy’n arddangos yr ail ystyr.

Drwy: Arddodiad yw ‘drwy’, ac mae’n cymryd lle ‘oherwydd’, er enghraifft “Drwy ymdrechion yr elusennau hyn, mae gwasanaethau digartrefedd y ddinas wedi’u hadfer.”

Nawr rydych yn barod i greu eich eglurhad. Defnyddiwch gynifer o’r dewisiadau yn lle ‘oherwydd’ ag y gallwch, ond cofiwch eu defnyddio’n gywir.