Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.2 - Disgrifio sut mae nodweddion cyrchfan yn cael eu gwella er mwyn rhoi apêl

Rhoi’r cyfan ar waith

Meddyliwch am y cyrchfan yn y DU rydych wedi dewis ysgrifennu amdano yn AC 1.3, ble wnaethoch chi egluro sut mae nodweddion y cyrchfan wedi helpu gydag apêl y cyrchfan ar gyfer gwahanol fathau o dwristiaid.

Yn yr adran hon mae angen i chi ysgrifennu am bethau sydd wedi digwydd yn ddiweddar neu bethau sy’n digwydd nawr, sy’n gwneud y cyrchfan yn fwy apelgar i wahanol fathau o dwristiaid.

Efallai bydd angen i chi wneud ychydig o waith ymchwil er mwyn cyflawni hyn.

Ceisiwch feddwl am ddatblygiadau ar gyfer:

  • Hygyrchedd eich cyrchfan dewisol
  • Atyniadau naturiol y cyrchfan
  • Atyniadau adeiledig yn y cyrchfan
  • Y llety sydd ar gael yn y cyrchfan
  • Digwyddiadau, gwybodaeth ac agweddau eraill o dwristiaeth

Mae’r tabl isod yn eich helpu chi i grynhoi eich syniadau. Ar ôl i chi gwblhau’r tabl, gallwch chi gynhyrchu disgrifiad o sut mae nodweddion y cyrchfan wedi cael, neu’n cael eu datblygu er mwyn cynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwristiaid.