Canolfannau Croeso/Canolfannau Gwybodaeth i Dwrist
Canolfannau Croeso yw un o’r cyfleusterau pwysicaf o fewn diwydiant twristiaeth y DU, ac yn aml yn cynrychioli pwynt cyswllt cyntaf miloedd o ymwelwyr sy’n dibynnu arnyn nhw ar gyfer gwybodaeth ddiweddar a chyngor am y cyrchfan maen nhw’n ymweld ag ef.
Mae Canolfannau Croeso fel arfer yn cael eu hariannu gan y cyngor lleol ac mae gan eu gweithwyr wybodaeth fanwl am yr ardal leol.
Mae’r cynhyrchion a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan ganolfannau croeso yn cynnwys:
- Mapiau ymwelwyr am ddim
- Taflenni am atyniadau a digwyddiadau
- Cardiau Ymwelwyr sy’n galluogi disgownt mewn rhai siopau, atyniadau a bwytai
- Gweithiwr amlieithog i roi cyngor
- Gwerthu tocynnau ar gyfer atyniadau poblogaidd
- Gwerthu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth twristiaid o fewn y cyrchfan
- Siop anrhegion yn gwerthu cofroddion ac anrhegion wedi’u cynhyrchu’n lleol
Gweithgaredd
Darllenwch yr wybodaeth isod am y ffordd newydd mae technoleg yn helpu twristiaid dderbyn gwybodaeth am y cyrchfan.
Realtimetravelguide
Mae Realtimetravelguide yn fenter sydd wedi’i dylunio i ddangos sut mae canolfannau croeso ac ymwelwyr yn gallu defnyddio technoleg newydd i annog twf drwy ddarparu gwasanaeth modern amser real ardderchog i ymwelwyr, busnesau a chymunedau lleol ehangach.
Bydd y fenter yn darparu gwybodaeth ymwelwyr amser real trwy Drydar/Twitter. Mae’r cyfranogwyr, yn cynnwys canolfannau croeso, yn cael eu hannog i gysylltu gyda, a chefnogi busnesau lleol er mwyn rhannu eu cyhoeddiadau, cynigion, yr wybodaeth ddiweddaraf a rhesymau i ymweld â lleoliadau penodol.
Awgrymwch sut gall Canolfan Groeso ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau modern i helpu ymwelwyr
- cyn iddyn nhw ymweld â chyrchfan
- tra eu bod yn aros yn y cyrchfan
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-3.1-Adnodd8.docx