Prosiect Bae Caerdydd yw un o’r prosiectau datblygiad twristiaeth fwyaf llwyddiannus yn y DU. Mae wedi trawsffurfio ardal ddifreintiedig o ardal ddociau i ardal anhygoel, gydag amrywiaeth o atyniadau i dwristiaid.
Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus yn rhannol o ganlyniad i’r amrywiaeth o sefydliadau twristiaeth sydd wedi bod yn rhan o ddatblygiad yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys darparwyr, sefydliadau trafnidiaeth, byrddau croeso a chynghorau lleol, i enwi rhai.
Mae’r adran hon am yr amrywiaeth o sefydliadau sydd ynghlwm â datblygiad twristiaeth a'u rolau gwahanol.