Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.2

Cydberthnasoedd ‘Upcross’

Mae llawer o sefydliadau twristiaeth yn ffurfio partneriaethau gyda busnesau eraill er mwyn datblygu eu cynhyrchion a gwasanaethau. Mae’r sefydliadau sydd ynghlwm yn gobeithio, drwy’r broses hon, i fod yn fwy llwyddiannus. Bydd hyn hefyd yn helpu arwain at ddatblygiad twristiaeth o fewn y cyrchfan ble lleolir y busnesau.

Mae’r sefydliadau sy’n cael eu disgrifio isod wedi’u lleoli mewn, ac o gwmpas y cyrchfan twristiaeth ‘Upcross’.

Darllenwch drwy’r wybodaeth am y sefydliadau.

Parc Saffari Upcross

Saffari y gellir gyrru drwyddo gyda nifer o geirw, sebras, antelopiaid, ceirw Llychlyn a merlod.

Parc Gwledig Upcross

Mae’r parc yn cael ei reoli gan yr awdurdod lleol ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau hamdden sy’n ymwneud â dŵr. Mae yna gaffi yn y parc.

Gino’s Upcross

Bwyty gyda statws ardderchog ac adolygiadau gwych ar Trip Advisor.

Maenordy Upcross

Maenordy a gerddi a oedd unwaith yn eiddo i gyn brif weinidog. Mae’r adeilad ar agor o 10 yb i 3 yp ym misoedd yr haf. Mae modd ymweld â’r gerddi drwy’r flwyddyn.

Marchnad Ffermwyr Upcross

Mae’r farchnad yn cael ei chynnal bob ddydd Llun ac yn galluogi ffermwyr yn yr ardal leol i werthu eu cig, llysiau a bwyd sydd wedi’u tyfu’n lleol i bobl leol a thwristiaid.

Grŵp Cerdded a Chadwraeth Upcross

Mae’r grŵp hwn o wirfoddolwyr yn darparu mapiau o lwybrau cerdded diddorol yn yr ardal i dwristiaid ac yn helpu gwaredu sbwriel o lwybrau cerdded.

Tŷ Llety Upcross

Mae gan y tŷ llety 8 ystafell ac yn cynnig llety Gwely & Brecwast yn unig. Does dim prydau nos yn cael eu darparu.

Castell Upcross

Y castell yw safle hen adeilad godidog a gafodd ei ddinistrio mewn tân 200 mlynedd yn ôl. Mae’r adfeilion yn cael eu hamgylchynu gan lwybrau cerdded coetir.

Plas Upcross

Mae’r Plas yn westy 4/5-seren gyda chyfadeilad hamdden, cwrs golff a bwyty. Mae’r Plas hefyd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cynnal priodasau.

Travelway Upcross

Mae’r gwesty Travelway yn un o gadwyn genedlaethol o westyau 3-seren gyda bwyty bwyd cyflym ar y safle.

Pasta a Phitsa Upcross

Mae’r bwyty yn gweini bwyd wedi’i brisio’n rhesymol amser cinio ac yn y nosweithiau.

Ystafelloedd Te Upcross

Mae’r ystafelloedd te ar agor o 8yb tan 5yh yn gweini lluniaeth a chinio ysgafn.

Coedwig Antur Upcross

Parc thema maint canolig yw’r atyniad hwn, gyda thema coedwig sy’n cynnig reidiau addas i deuluoedd a rheilffordd fechan.

Tywyswyr Upcross

Cymdeithas o tua 15 tywyswr gyda gwybodaeth fanwl am yr ardal.

Bysiau Upcross

Mae’r cwmni yn rhedeg fflyd o 8 bws, o fws 15 sedd i fws 45 sedd.

Parc carafanau a Gwersylla Upcross

Mae’r safle yn addas i bebyll a charafanau teithiol. Mae gan y parc 30 o unedau cartref symudol i’w rhentu. Mae yna fwyty/bar bach ar y safle.

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau isod am y gwahanol sefydliadau twristiaeth yn Upcross.

  • Awgrymwch dri sefydliad a allai roi hysbyseb fel gweithgaredd marchnata ar y cyd mewn cylchgrawn ‘sgleiniog’ pen ucha’r farchnad.
  • Awgrymwch dri sefydliad a allai roi hysbyseb fel gweithgaredd marchnata ar y cyd mewn cylchgrawn gwyliau i deuluoedd.
  • Eglurwch pam fod gan ardal Upcross amrywiaeth dda o lety.

Gweithgaredd 2

Mae Cyngor Sir Upcross wedi penderfynu sefydlu Sefydliad Marchnata Cyrchfan o’r enw Destination Upcross. Mae’r sefydliadau canlynol wedi penderfynu dod yn bartneriaid allweddol yn y DMO:

  • Plas Upcross
  • Coedwig Antur Upcross
  • Bysiau Upcross
  • Parc Saffari Upcross
  • Gino’s Upcross

Mae’r sefydliadau twristiaeth eraill yn Upcross yn aelodau o’r DMO.

Dyluniwch dudalen hafan gwefan ar gyfer Destination Upcross.

Ceisiwch gynrychioli'r amrywiaeth o atyniadau a chyfleusterau twristiaid sydd ar gael yn yr ardal a gwnewch yr ardal yn apelgar i wahanol fathau o dwristiaid.