Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.2

Partneriaethau Visit Cambridge

Mae’r wybodaeth isod yn ymddangos ar y wefan ar gyfer twristiaid sy’n ystyried ymweld â dinas Chaergrawnt a’r ardal gyfagos. Mae’r sefydliad yn DMO o’r enw Visit Cambridge. Fel y gwelwch, mae gan y sefydliad nifer o bartneriaid, ac mae’r busnesau twristiaeth sy’n ymddangos ar y wefan wedi talu tâl aelodaeth fel bod eu hysbysebion yn ymddangos arni.

Mae ‘Great Days Out In & Around Cambridge’ yn grŵp o tua 14 o atyniadau sydd wedi ffurfio partneriaeth ac yn defnyddio marchnata ar y cyd drwy wefan Visit Cambridge, ble maen nhw wedi talu tâl aelodaeth ar gyfer hysbysebu.

Mae’r 14 atyniad yn wahanol ac yn dangos amrywiaeth eang o atyniadau yn y DU sy’n apelio at wahanol fathau o ymwelwyr. Er enghraifft:

  • Mae Wicken Fen yn warchodfa bywyd gwyllt dan berchenogaeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Mae Canolfan Wyddoniaeth Caergrawnt yn cael ei chefnogi gan nifer o gwmnïau masnachol a sefydliadau eraill
  • Mae Eglwys Gadeiriol Ely yn atyniad hanesyddol sydd yn rhan o Eglwys Lloegr
  • Mae ‘Discover Newmarket’ yn bennaf gysylltiedig â darparu teithiau tywysedig o’r dref a’r ardal gyfagos
  • Mae’r Fynwent Americanaidd yn fynwent fawr ble mae cyrff miloedd o filwyr, a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd, wedi’u claddu

Nid yw’r mwyafrif o’r atyniadau yn cystadlu’n uniongyrchol gyda’i gilydd. Mae’n eithaf posib i ymweld â dau neu dri o’r atyniadau mewn un diwrnod. Mae rheolwyr yr atyniadau yn teimlo drwy ffurfio partneriaeth a marchnata’u cynhyrchion a gwasanaethau drwy wefan Visit Cambrdige, eu bod nhw’n debygol o weld nifer uwch o ymwelwyr.

Fel y gwelir o ran o’r wefan uchod, mae’r DMO Visit Cambridge wedi cael ei sefydlu gan nifer o bartneriaid allweddol yn cynnwys:

Cyngor Dosbarth De Caergrawnt – awdurdod lleol yn gwasanaethu’r ardal i’r de o Gaergrawnt yn bennaf

Cyngor Dinas Caergrawnt – awdurdod lleol yn gwasanaethu dinas Caergrawnt ei hun

Cyngor Sir Swydd Gaergrawnt – yn gyfrifol am y sir gyfan, gyda chyfrifoldeb ehangach

Cambridge Business Improvement District (BID) – grŵp o fwy na 1,000 o fusnesau fel siopau, barrau, caffis ac atyniadau eraill sydd wedi’u lleoli o fewn canol dinas Caergrawnt

England’s Historic Cities – marchnata ar y cyd ar gyfer 13 dinas hanesyddol yn Lloegr. Mae Caergrawnt yn un.

Mae gwybodaeth am Cambridge BID i’w gweld isod.

Casgliadau

Dylai’r wybodaeth uchod ddangos i chi bod partneriaethau rhwng sefydliadau twristiaeth yn gallu bod yn gymhleth iawn a gall fod perthnasoedd rhwng pob math o sefydliadau sydd ynghlwm â thwristiaeth mewn rhyw ffordd. Mae enghraifft Caergrawnt yn dangos bod yna ‘bartneriaethau o fewn partneriaethau’, a dydy hi ddim bob amser yn hawdd gosod sefydliadau twristiaeth mewn grwpiau syml.

Gweithgaredd

  • Beth yw ystyr y llythrennau DMO?
  • Esboniwch beth yw bwrpas ‘Visit Cambridge and Beyond’?
  • Crynhowch y cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y cydgwmni ‘Great Days Out In & Around Cambridge’.
  • Awgrymwch pam dylai’r Fynwent Americanaidd gael ei gweld fel atyniad twristiaeth.
  • Eglurwch rôl y bobl sy’n gwisgo hetiau bowler.