Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Archwilio’r Cyrchfan

Cyflwyniad

Mae llawer o dwristiaid am wneud mwy nag eistedd ar draeth neu ddiogi a segura, ac yn aml mae’r tywydd yn y DU yn rhy oer i dorheulo! Mae’r rhan fwyaf o dwristiaid am archwilio’r cyrchfan a chael gwybod am ei hanes, ei dirweddau, ei leoedd enwog ac ati.

Mathau o dwrist

Twristiaid hamdden – bydd y rheini sydd heb ymweld â’r cyrchfan o’r blaen am ymweld â’r atyniadau pwysicaf, golygfannau, safleoedd treftadaeth ac ati. Mae’n ddigon posibl y bydd y rheini a fu o’r blaen yn ymweld â lleoedd na welsant yn y gorffennol. Fel arall, gallent ymweld â’u hoff leoedd eto.

Twristiaid busnes – sy’n llai tebygol o gael amser i weld llawer o olygfeydd, ond efallai byddant yn ymweld ag un neu ddau atyniad.

Gwahanol oedrannau – efallai bydd teuluoedd gyda phlant ieuengach yn methu mynd i leoedd sy’n anhygyrch i gadeiriau gwthio, ond gallant ymweld ag ystod eang o atyniadau ac ati yn y cyrchfan. Mae’n ddigon posibl y bydd parau ieuengach am gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ogystal â gwneud teithiau ac ymweld ag atyniadau. Bydd pobl hŷn gyda cheir am ymweld ag amrywiaeth o atyniadau. Gallai’r rheini heb eu cludiant eu hunain gymryd rhan mewn teithiau.

Gwahanol ddiwylliannau – bydd llawer o dwristiaid o dramor am ymweld â’r atyniadau enwocaf a mwyaf poblogaidd. Gellid rhoi gwybodaeth mewn gwahanol ieithoedd.           

Cynhyrchion a gwasanaethau

  • Gall unrhyw rai o’r atyniadau adeiledig yn yr ardal wella eu cynhyrchion a’u gwasanaethau.
  • Gall Parciau Cenedlaethol, AHNE ac ati ddarparu cyfleusterau ychwanegol fel llwybrau ag arwyddbyst ac ati.
  • Gall Parciau Gwledig gynnig rhaglenni o ddigwyddiadau.
  • Gellir datblygu llwybrau beicio newydd.
  • Gall eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddarparu gwasanaethau ychwanegol fel rhaglenni addysgu.
  • Gall ardaloedd arfordirol ddarparu cyfleusterau newydd.
  • Gellir darparu rhaglen newydd o deithiau cerdded tywysedig.
  • Gall golygfannau ychwanegu cyfleusterau newydd i’r anabl.

Hyrwyddo

  • Gall pob un o’r cyfleusterau a’r atyniadau hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau naill ai drwy eu gwaith marchnata eu hunain neu drwy fwrdd croeso.
  • Gall sefydliad rheoli cyrchfan weithio gyda chyfleusterau ac atyniadau unigol i hyrwyddo’r ardal.  
  • Gall yr atyniadau gydweithio i hyrwyddo’r cyrchfan.               

Ymglymiad sefydliadau

  • Bydd y sefydliadau sy’n rheoli’r gwahanol gyfleusterau ac atyniadau yn gwneud penderfyniadau am eu datblygiad. Gallai’r rhain amrywio o Gynghorau Plwyf i Awdurdodau Parc Cenedlaethol.
  • Bydd sefydliadau sector preifat a chyhoeddus yn cymryd rhan.
  • Efallai bydd sefydliadau rheoli cyrchfan yn cydlynu datblygiad partneriaethau.

Cyllid

  • Bydd angen i sefydliadau sector preifat ddod o hyd i gyllid o elw neu fenthyciadau.
  • Efallai bydd sefydliadau sector gwirfoddol, fel eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cael cyllid o roddion a ffioedd aelodaeth.                 
  • Bydd sefydliadau sector cyhoeddus yn cael cyllid gan y llywodraeth ganolog neu leol.

Nodwch sut y gall atyniadau a chyfleusterau yn yr ardal y gallai twristiaid ei harchwilio gynyddu apêl y cyrchfan.