Mae llawer o ffyrdd y gall cyrchfannau gynyddu eu hapêl i wahanol fathau o dwrist. Fel y gwelsom, mae datblygu’r cyfleusterau i dwristiaid a gwella’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddarperir gan wahanol fusnesau yn aml yn dibynnu ar bartneriaeth rhwng dau neu ragor o sefydliadau twristiaeth.
Yn aml iawn, bydd cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, byrddau croeso neu sefydliadau rheoli cyrchfan yn helpu busnesau unigol i ffurfio partneriaethau sy’n arwain at brosiectau sy’n cynyddu apêl cyrchfannau.
Heblaw mewn dinasoedd mawr fel Llundain, bydd llawer o dwristiaid yn archwilio’r ardal o amgylch y ddinas neu’r dref y maent yn ymweld â hi. Mae’n ddigon posibl y bydd twristiaid sy’n treulio rhyw wythnos mewn tref fawr neu ddinas yn teithio y tu hwnt i ganol y cyrchfan i’r trefi, pentrefi, ardaloedd arfordirol, Parciau Cenedlaethol ac ati o’i chwmpas.
Yn yr adran hon, bydd angen i chi allu awgrymu’r gwahanol ffyrdd y gallai eich cyrchfan dewisol gynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwrist. Byddwn yn gwneud hyn drwy edrych ar wahanol rannau o’r diwydiant twristiaeth yn eu tro. Dylai hyn roi ychydig o syniadau i chi o ran beth allai fod yn briodol i’ch cyrchfan chi.
Dylai’r chwe adnodd nesaf awgrymu i chi sut y gallai pob cydran weithio i gynyddu apêl y cyrchfan. Pan fyddwch wedi darllen drwy bob adnodd, gwnewch nodiadau am yr hyn a allai weithio i’ch cyrchfan chi.
Pan fyddwch wedi gweithio drwy chwe adran, torrwch a gludiwch y nodiadau a wnaethoch i un ddogfen.
Yr adrannau yw:
- Darparwyr llety
- Atyniadau
- Darparwyr cludiant
- Bwyd a diod
- Gwybodaeth i ymwelwyr
- Archwilio’r cyrchfan
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-4.1-Adnodd2.docx