Cyflwyniad
Mae’n bwysig deall bod angen cludiant ar dwristiaid i gyrraedd eu cyrchfan ac yna i fynd o gwmpas y cyrchfan. Mae gan bob cyrchfan mawr hygyrchedd da, gyda nifer o wahanol ffyrdd o gyrraedd y cyrchfan. Hefyd, mewn llawer o gyrchfannau, darperir cludiant i breswylwyr a chymudwyr gymaint ag i dwristiaid.
Un o’r pethau sy’n bwysig i’r rhan fwyaf o dwristiaid yw gwybod ei bod yn hawdd a diogel teithio o gwmpas y cyrchfan. Mae hyn yn enwedig yn wir am y dinasoedd mawrion.
Mathau o dwrist
Twristiaid hamdden – byddant yn defnyddio amrywiaeth o fathau o gludiant, gan gynnwys eu ceir preifat eu hunain. Mewn cyrchfannau cefn gwlad, efallai mai hwn fydd yr unig opsiwn. Mae rhai twristiaid hamdden yn hoff o’r her o gyrraedd atyniadau gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Nid oes rhaid iddynt deithio yn ystod yr amserau brig. Mae gan rai cyrchfannau ddewisiadau cludiant wedi’u darparu’n arbennig i dwristiaid, fel y bysiau ‘hop on, hop off’.
Twristiaid busnes – efallai byddant yn defnyddio eu ceir eu hunain neu’r dull mwyaf cyfleus o gludiant i fynd o’r naill le i’r llall yn y cyrchfan. Mae llawer o deithwyr busnes yn annhebygol o deithio llawer iawn o fewn y cyrchfan yn ystod eu hamser yno.
Gwahanol oedrannau – mae teithwyr ieuengach yn fwy tebygol o fod yn ddigon hyderus i deithio ar gludiant cyhoeddus a chwilio am ddewisiadau rhatach. Bydd teuluoedd yn tueddu i ddefnyddio eu ceir eu hunain, yn enwedig y rheini gyda phlant ieuengach, y mae gofyn iddynt gario llawer o fagiau ychwanegol. Efallai y bydd parau hŷn yn dewis nifer o opsiynau cludiant cyhoeddus a phreifat ac mae pobl hŷn efallai’n fwy tebygol o deithio mewn grwpiau.
Gwahanol ddiwylliannau – mae llawer o dwristiaid i mewn yn teithio mewn grwpiau coets. Efallai bydd y rhai sy’n teithio’n annibynnol yn defnyddio cludiant cyhoeddus.
Cynhyrchion a gwasanaethau
- Bydd ychwanegu at nifer y ffyrdd o gyrraedd cyrchfan yn ei wneud yn fwy hygyrch ac yn fwy deniadol. Gall hyn gynnwys cysylltiadau awyren, mwy o drenau neu goetsis i’r cyrchfan neu efallai mwy o weithredwyr teithiau yn cynnig teithiau.
- Bydd ffyrdd/ffyrdd osgoi newydd sy’n helpu mynediad i’r cyrchfan yn cynyddu apêl.
- Gall darparwyr cludiant yn y cyrchfan wella eu cyfleusterau a’u gwasanaethau. Gall hyn ddigwydd mewn llawer o ffyrdd, e.e. gall bysiau ‘hop on, hop off’ roi sylwebaeth mewn gwahanol ieithoedd, gall cwmni tacsis dŵr ddatblygu amserlen newydd, gellir ailwampio rheilffordd halio, ac ati
- Gall awdurdodau lleol ddarparu meysydd parcio newydd neu ddarparu cynlluniau parcio a theithio i helpu i wneud y cyrchfan yn haws ei drafod
- Gellid datblygu ffyrdd newydd o ddarparu cludiant i dwristiaid, e.e. gollwng a chasglu pobl sy’n cerdded o fewn y cyrchfan
- Gallai cwmnïau gyflwyno ‘cludiant gwyrdd’ yn y cyrchfan
- Gellid cydlynu gwahanol systemau cludiant yn fwy
- Gellid gwneud amserau cludiant cyhoeddus lleol ar gael ar ap
Hyrwyddo
- Byddai pob un o’r darparwyr cludiant sy’n gweithio yn y cyrchfan yn hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau, ac unrhyw ddatblygiadau, drwy eu gwefannau
- Gallai llawer o’r sefydliadau gynhyrchu deunyddiau argraffedig a fyddai ar gael o ganolfannau croeso a mannau eraill
- Hyrwyddir llwybrau ac amserlenni newydd yn eang i sicrhau bod gan gwsmeriaid yr wybodaeth ddiweddaraf
- Bydd gwelliannau neu ddatblygiadau mawr i ddewisiadau cludiant mewn cyrchfannau yn cael eu hyrwyddo’n helaeth am y bydd y rhain yn annog mwy o bobl i ymweld
- Bydd cyrchfannau sy’n cynnig modd unigryw neu anghyffredin o deithio o gwmpas y cyrchfan yn ei hyrwyddo’n helaeth am y bydd hwnnw’n ‘bwynt gwerthu unigryw’ i’r cyrchfan
Ymglymiad sefydliadau
- Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr cludiant yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, fel gweithredwyr teithiau a gwestyau
- Mae rhai darparwyr cludiant yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cludiant eraill
- Ni all llawer o ddatblygiadau i systemau cludiant fynd yn eu blaenau heb ganiatâd cynllunio gan awdurdodau lleol neu lywodraeth
- Bydd awdurdodau lleol yn ymwneud yn helaeth iawn â datblygu dewisiadau cludiant yn y cyrchfan y maent yn gyfrifol amdano
- Mae angen ystyried effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cludiant mewn cyrchfannau
Cyllid
- Mae angen i ddarparwyr cludiant sector preifat ariannu datblygiadau allan o elw neu fenthyciadau
- Bydd y llywodraeth yn darparu cyllid i brosiectau mawr fel ffordd osgoi neu orsaf drenau/fysiau newydd
- Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr cludiant yn cael eu hunig incwm drwy godi tâl ar deithwyr
- Efallai bydd grantiau a benthyciadau ar gael i ddatblygu dewisiadau cludiant ‘gwyrdd’ neu fwy cyfeillgar i’r amgylchedd
Nodwch sut y gall darparwyr cludiant yn eich cyrchfan chi gynyddu apêl y cyrchfan i wahanol fathau o dwrist.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-4.1-Adnodd5.docx