Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Gwybodaeth i ymwelwyr

Cyflwyniad

Mae rhoi gwybodaeth i ymwelwyr yn bwysig iawn i gyrchfannau twristiaeth. Mae angen gwybodaeth ar dwristiaid cyn iddynt ymweld â’r cyrchfan, a hefyd yn ystod eu hymweliad. Efallai bydd angen gwybodaeth ar unigolion, parau a theuluoedd sy’n ymweld â’r cyrchfan. Efallai bydd gofyn gwybodaeth ar fusnesau hefyd a gweithredwyr teithiau sy’n dod â grwpiau i’r cyrchfan. Gellir rhoi gwybodaeth i ymwelwyr mewn print, drwy daflenni a phamffledi. Gellir ei rhoi wyneb yn wyneb neu drwy sgwrs ffôn. Fodd bynnag, yn gynyddol, rhoddir gwybodaeth i ymwelwyr drwy dechnoleg fel gwefannau, apiau a chyfryngau cymdeithasol.     

Mathau o dwrist

Twristiaid hamdden – bydd angen i’r rhai sydd heb ymweld â’r cyrchfan o’r blaen gael gwybod am y cyrchfan a’u perswadio i ymweld yn hytrach na mynd rhywle arall. Rhaid i’r wybodaeth roi argraff gadarnhaol o’r cyrchfan a’i ‘werthu’. Pan fydd ymwelwyr yn y cyrchfan, bydd angen iddynt wybod sut mae cael y gwerth gorau o’u hymweliad.                      

Twristiaid busnes – efallai bydd angen gwybodaeth arnynt am leoliadau cyfarfodydd a chynadleddau. Efallai hefyd y bydd angen iddynt gael gwybod am westyau sy’n cynnig cyfleusterau cynadledda.

Gwahanol oedrannau – bydd twristiaid ieuengach am gael gwybod am fywyd nos a gwyliau yn ogystal â’r prif atyniadau a gweithgareddau. Efallai bydd angen gwybodaeth ar deuluoedd am lety sy’n gyfleus i deuluoedd ac atyniadau sy’n addas i blant. Efallai bydd angen i barau gael gwybod am yr amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal. Efallai bydd angen gwybodaeth ar ymwelwyr hŷn am gludiant cyhoeddus.                                

Gwahanol ddiwylliannau – byddai angen mapiau a chanllawiau ar ymwelwyr yn eu hiaith eu hunain ac efallai teithiau tywysedig yn eu hiaith eu hunain.

Gwybodaeth i ymwelwyr – termau allweddol

  • Digwyddiadau
  • Gwyliau
  • Beth sy’n digwydd
  • Mapiau
  • Pamffledi
  • Gwybodaeth deithio
  • Canllawiau
  • Apiau
  • Lawrlwythiadau
  • Gwefannau
  • E-bost
  • Hygyrchedd
  • Canolfannau Croeso
  • Teithio Grŵp
  • Lleoliadau cynadledda
  • Ystafelloedd cyfarfod
  • Twristiaeth Werdd
  • Gwybodaeth am y tywydd

Cynhyrchion a gwasanaethau

  • Darperir y rhan fwyaf o wybodaeth i dwristiaid gan sefydliadau’r sector cyhoeddus fel byrddau croeso a sefydliadau rheoli cyrchfan
  • Mae llawer o gyrchfannau’n defnyddio technoleg newydd fel apiau i roi gwybodaeth i dwristiaid
  • Gall bwrdd croeso ddatblygu gwefan newydd i ddiweddaru gwybodaeth a chyhoeddi digwyddiadau newydd
  • Gall byrddau croeso awdurdodau lleol benderfynu ailddatblygu neu agor canolfannau croeso newydd
  • Gall awdurdodau lleol ddatblygu mapiau a chanllawiau newydd i ymwelwyr a mathau eraill o wybodaeth wedi’i hargraffu
  • Gallai byrddau croeso benderfynu cynnig mwy o wasanaethau mewn gwahanol ieithoedd i gefnogi twristiaid o wahanol wledydd

Hyrwyddo

  • Mae llawer o waith gwasanaethau gwybodaeth i ymwelwyr hefyd yn hyrwyddo’r cyrchfan
  • Bydd atyniadau mawr a darparwyr llety hefyd yn hyrwyddo’r cyrchfan ac yn rhoi gwybodaeth i dwristiaid          
  • Bydd gweithredwyr cludiant yn hyrwyddo’r cyrchfan drwy’r llwybrau a’r amserlenni i’r cyrchfan          

Ymglymiad Sefydliadau

  • Bydd gan yr awdurdod lleol ran bwysig i’w chwarae mewn hyrwyddo ymweliadau â’r cyrchfan. Bydd hyn yn helpu economi’r cyrchfan.   
  • Bydd gan y bwrdd croeso neu sefydliad rheoli cyrchfan gyfrifoldeb am hyrwyddo’r cyrchfan a’i gyfleusterau             
  • Bydd gan atyniadau mawr a darparwyr llety ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod twristiaid yn parhau i ymweld â’r cyrchfan                   

Cyllid

  • Daw llawer o’r cyllid i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr drwy’r awdurdod lleol a’i adran dwristiaeth. Efallai bod y corff hwn yn ariannu’r bwrdd croeso.

Nodwch sut y gall gwybodaeth i ymwelwyr a ddarperir yn eich cyrchfan dewisol gynyddu apêl y cyrchfan.