Mae pob sefydliad twristiaeth yn cael cwynion a rhaid i gyflogeion ryngweithio â chwsmeriaid i ymdrin â chwynion.
Weithiau, efallai bydd y cwsmer yn ddig neu’n ofidus wrth wneud ei gŵyn a bydd gwasanaeth cwsmeriaid da yn golygu gwrando ar y cwsmer a deall ei broblem.
Mae rhai cwynion yn llawer mwy difrifol nag eraill. Yn achos cwynion llai difrifol, efallai bydd ymddiheuro’n ddigon i wneud i’r cwsmer deimlo bod rhywun wedi gwrando arno. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau twristiaeth weithdrefnau i ymdrin â chwynion mwy difrifol ac ymchwilio iddynt.
Nid y cwsmer sy’n iawn bob tro. Weithiau, efallai bydd y cwsmer yn cymryd arno fod y gŵyn yn fwy difrifol nag ydyw mewn gwirionedd, er mwyn cael rhyw fath o iawndal. Gall yr achosion hyn fod yn anodd i sefydliadau twristiaeth eu trin ac efallai bydd gofyn i uwch reolwr ymdrin â’r cwsmer.
Gweithgaredd
Dewiswch 6 o’r rhain ac eglurwch pam y byddent yn bwysig i gyflogeion wrth ymdrin â chwsmeriaid sy’n gwneud cwynion. Efallai bydd angen i chi ymchwilio i ystyr geiriau nad ydych yn eu deall.
Pan fyddwch wedi gwneud eich dewisiadau, trafodwch eich atebion gyda’ch cyd-ddisgyblion.
- cywir
- sylw
- digynnwrf
- pryderus
- hyderus
- dan reolaeth
- di-hid
- aneffeithiol
- chwilfrydig
- cyfrifol
- cefnogol
- difeddwl
- ystyriol
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-2.2-Adnodd8.docx