Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.3 Disgrifiwch sut mae gwasanaeth cwsmeriaid yn cael ei ddarparu’n wahanol ar draws gwahanol gyfryngau

A allwch chi egluro?

Ar ôl gwylio’r fideo sy’n dangos sut y gall ffôn clyfar gael ei ddefnyddio gan sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid, a allwch egluro’n awr sut maen nhw’n gweithio?

Gweithgaredd

Gan weithio mewn parau, dychmygwch fod un o’r pâr yn berson nad yw wedi defnyddio ffôn clyfar erioed o’r blaen ac y gofynnwyd i chi ddangos iddo sut y gellir ei ddefnyddio at ddibenion twristiaeth.