Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.3 Disgrifiwch sut mae gwasanaeth cwsmeriaid yn cael ei ddarparu’n wahanol ar draws gwahanol gyfryngau

Nodiadau Gludiog

Meddyliwch am sefydliad twristiaeth yr ydych wedi’i astudio.

Gweithgaredd 1

Dychmygwch fod gennych dri bwrdd ar wal ystafell ddosbarth sy’n cynrychioli gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir drwy bob cyfrwng gan y sefydliad:

  • Wyneb yn wyneb
  • Ar-lein/electronig
  • Ff&ocirc

Er enghraifft...

face to Face cym

Yn awr, rhannwch bob un o’r tri bwrdd yn ôl rhannau neu adrannau addas o’ch sefydliad dethol. Efallai yr hoffech weithio mewn parau neu dimau.                   

Er enghraifft (ar gyfer gwesty)...

face to Face 02 cym

Mae gennych dri bwrdd yn awr, un i bob cyfrwng, wedi’u hisrannu’n amrywiol rannau neu adrannau.

Ystyriwch yn ofalus sut mae gwasanaeth cwsmeriaid yn cael ei ddarparu gan y gwahanol rannau neu adrannau drwy bob cyfrwng.

Gweithgaredd 2

Gan weithio mewn parau neu grwpiau bach, gallwch ysgrifennu cynifer o nodiadau gludiog ag y gallwch feddwl amdanynt i ddangos sut mae gwasanaeth cwsmeriaid yn cael ei ddarparu ar draws gwahanol gyfryngau mewn gwahanol adrannau o’ch sefydliad dethol.

Efallai hefyd y byddwch yn meddwl am y ffyrdd y mae pobl sy’n gweithio mewn gwahanol rannau neu adrannau yn defnyddio gwahanol gyfryngau i gyfathrebu â’i gilydd i helpu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid.