Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.1 Disgrifiwch anghenion gwahanol fathau o gwsmer

Croeso!

Mae angen i gwsmeriaid newydd sefydliadau twristiaeth gael eu croesawu’n briodol ac efallai cael ychydig o gymorth ac arweiniad i sicrhau eu bod yn teimlo’n gyffyrddus.

Nid yw hyn yn wir am sefydliadau twristiaeth yn unig; er enghraifft, bydd myfyrwyr newydd a’u rhieni yn teimlo’r un fath wrth ymweld ag ysgol newydd am y tro cyntaf.

Gweithgaredd

Dychmygwch y gofynnwyd i chi gwrdd â rhieni myfyriwr newydd yn eich ysgol a gorfod eu harwain ar daith o amgylch yr ysgol.              

Gan weithio gyda phartner neu mewn grŵp bach, cynlluniwch hanner awr o daith o amgylch adeiladau eich ysgol, gan amlygu’r adeiladau a’r nodweddion pwysig.

Gallech ymarfer eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid drwy ddarparu’r daith i’ch cyd-ddisgyblion.