Erbyn hyn, rydych wedi astudio llawer agwedd ar brofiad y cwsmer ac wedi cymhwyso’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth i sefydliad twristiaeth y dewisoch ei astudio.
Un peth yr ydych wedi’i sylweddoli efallai yw bod gwasanaeth cwsmeriaid yn amrywio’n helaeth yn ôl y math o sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth, yn ôl sefyllfa darparu’r gwasanaeth ac yn ôl y math o gwsmer neu gwsmeriaid. Fodd bynnag, ni waeth beth yw’r sefyllfa, dylai holl gyflogeion sefydliadau twristiaeth sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparant o’r safon uchaf drwy’r amser.
Ar gyfer yr asesiad hwn, dylech egluro sut mae eich sefydliad twristiaeth dewisol yn bodloni disgwyliadau amrywiaeth o fathau o gwsmer.
Byddwn yn gwneud hyn mewn dwy adran.
Yn yr adran gyntaf hon, byddwch yn datblygu tabl sy’n nodi sut mae’ch sefydliad dewisol yn bodloni disgwyliadau gwahanol fathau o gwsmer. Yn yr ail adran, byddwch yn datblygu’r tabl hwn yn ddarn o ysgrifennu estynedig sy’n darparu eglurhad rhesymegol o’r ffordd y mae’ch sefydliad dewisol yn bodloni disgwyliadau gwahanol fathau o gwsmer.
Mae’r tabl isod yn dangos y meini prawf gwahanol y mae angen i chi eu hystyried. Fel y gwelwch, mae angen i chi ystyried disgwyliadau cwsmeriaid cyn iddynt ymweld â’r sefydliad yn ogystal ag yn ystod eu hymweliad.
Gallech ystyried uno’r ddwy golofn sy’n ymdrin ag ansawdd gwasanaeth a chost gwasanaeth; dylech ddeall erbyn hyn fod y rhain yn gysylltiedig.
Mae angen i chi feddwl yn awr am bump neu chwe gwahanol fath o gwsmer y mae’ch sefydliad dewisol yn darparu gwahanol ddisgwyliadau iddynt. Mae’r dewis hwn yn bwysig iawn ac efallai y byddwch am drafod grwpiau cwsmer addas gyda’ch cyd-ddisgyblion.
Yn amlwg, bydd llawer yn dibynnu ar natur eich sefydliad dewisol, ond gellid ystyried rhai o’r mathau cwsmer isod.
- Teuluoedd gyda phlant o dan 5
- Cwsmeriaid ag anghenion arbennig neu ychwanegol (unigolion neu grwpiau)
- Pobl fusnes
- Grwpiau ysgol (cynradd neu uwchradd)
- Cwsmeriaid rheolaidd neu aelodau
- Grwpiau teulu o dair cenhedlaeth
- Grwpiau gyda diddordeb arbennig
- Cwsmeriaid o wahanol ddiwylliant/sy’n siarad gwahanol iaith
Wrth i chi ddatblygu eich tabl mae angen i chi feddwl yn ofalus am ei fformat. Yn ôl pob tebyg, bydd y tabl gorffenedig yn cymryd mwy nag un ochr o A4. Gallai fod yn well ei argraffu ar bapur A3.
Bydd rhai blychau’n cynnwys mwy o wybodaeth nag eraill, ond ceisiwch roi rhywbeth ym mhob un o’r blychau. Ceisiwch gynnwys gwybodaeth sydd ar gael o wefan y sefydliad.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-3.2-Adnodd7.docx