Yn y bôn, eich casgliadau fydd prif ganfyddiadau eich ymchwiliad i ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol.
Mae rhai cwestiynau allweddol i’w hystyried:
- Beth sy’n dda am brofiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol?
- Beth sy’n wael am brofiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol?
- O’ch ymchwil, sut gallai profiad y cwsmer gael ei wella yn eich sefydliad dewisol?
Ar wahân i’r prif gwestiynau hyn, mae ffyrdd eraill y gallech ddatblygu eich casgliadau. Er enghraifft:
- Pa grwpiau o gwsmeriaid sy’n cael profiad arbennig o dda gan fodloni eu hanghenion a’u disgwyliadau?
- I ba grwpiau o gwsmeriaid y gellid gwella lefel gyffredinol y profiad, a sut?
- A oes grwpiau o gwsmeriaid sy’n cael profiad o ansawdd gwael? A allwch egluro pam?
Un ffordd arall o ddod i gasgliadau yw ystyried profiad y cwsmer mewn amryw agweddau ac adrannau o’r sefydliad. Gallai’r rhain gynnwys:
- Gwybodaeth ar-lein ac ansawdd y wefan
- Gwerthu tocynnau
- Mynediad, arwyddion a pharcio ceir
- Mynedfa a gwybodaeth i ymwelwyr
- Arwyddion yn y sefydliad
- Ansawdd reidiau a chyfleusterau eraill
- Ansawdd lluniaeth
- Toiledau a chyfleusterau i’r rheini ag anghenion ychwanegol
- Cofroddion a nwyddau
Pan luniwch eich casgliadau, mae amrywiaeth helaeth o eiriau ac ymadroddion y gellir eu defnyddio. Rhoddir y rhain yn y blwch isod.
- yn bendant
- heb os nac oni bai
- yn gyfan gwbl
- yn derfynol
- y tu hwnt i amheuaeth
- cyn cloi
- yn olaf
- wedi’r cyfan
- yn y pen draw
- i gloi
- i grynhoi
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-4.2-Adnodd6.docx