Dyma sut mae’r rhai proffesiynol yn mynd ati! Daw’r detholiad isod o adroddiad a luniwyd gan Visit Britain. Gallai eich helpu i ddeall sut olwg sydd ar ddadansoddiad data.
Erbyn hyn, dylech fod wedi llunio cyfres o graffiau gan ddefnyddio data mewn perthynas ag ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad twristiaeth dewisol. Efallai hefyd y byddwch wedi nodi’r pwyntiau allweddol a wnaed mewn cyfweliadau a gynhalioch yn y cyfnod casglu data.
Mwyaf y graffiau a’r wybodaeth sydd ar gael gennych, mwyaf y gallwch gwblhau eich adroddiad yn llwyddiannus.
I ddadansoddi’ch gwybodaeth, rhaid i chi egluro beth mae’r wybodaeth yn ei ddweud. Yn syml, mae angen i chi roi’r wybodaeth yn y graffiau mewn geiriau, gan gofio bob amser eich bod yn ymchwilio i ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol.
Edrychwch ar y graffiau a’r tablau a luniwyd gennych. A allwch weld beth maen nhw’n ei ddweud wrthych?
Gweithgaredd
Meddyliwch am:
- Y cyfansymiau uchaf a’r cyfansymiau isaf ar gyfer ymatebion i’r cwestiynau a ofynnoch Ffigurau cyfartalog/cymedrig
- I ba raddau mae’r ffigurau yn y graffiau’n amrywio – a oes gwahaniaeth mawr neu fach rhwng y cyfansymiau uchaf ac isaf?
- A oes bylchau yn y graffiau?
- A oes unrhyw ganlyniadau arbennig o ddiddorol y gallwch eu dyfynnu?
- A ydy’r canlyniadau’n dangos bod agweddau ar brofiad y cwsmer yn y sefydliad sy’n eithriadol?
- A ydy’r canlyniadau’n dangos bod agweddau ar brofiad y cwsmer yn y sefydliad y mae angen eu gwella?
- A ydy’r graffiau’n dangos bod rhai grwpiau o gwsmeriaid yn cael gwell profiad nag eraill?
- A ydy’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael profiad da yn eich sefydliad dewisol?
- Pa agweddau ar y sefydliad y mae cwsmeriaid yn eu mwynhau fwyaf?
Bydd angen i chi ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob un o’r graffiau a’r tablau a luniwyd gennych.
Wrth lunio eich dadansoddiad, efallai bydd y geiriau yn y blwch isod o gymorth i chi.
- archwiliad
- astudiaeth
- ymchwiliad
- dadansoddiad
- gwerthusiad
- canfyddiad barn
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-3.2-Adnodd4.docx