Dull Cyflwyno

Felly, beth yw’r tâl?

Gweithgaredd 1

Pwy sy’n ennill beth?

Edrychwch ar y rhestr o swyddi isod. Mewn grwpiau bach o dri neu bedwar, rhannwch y swyddi rhyngddoch chi, a cheisiwch ddod o hyd i wybodaeth am y cyfraddau cyflog sy’n cael eu cynnig ar gyfer pob swydd.

  • Peilot Cwmni hedfan
  • Criw caban
  • Gyrrwr bws
  • Asiant Teithio
  • Cynrychiolydd Gwyliau
  • Rheolwr Cyffredinol Gwesty
  • Pen-cogydd
  • Person trin bagiau
  • Glanhawr mewn gwesty
  • Porthor
  • Harddwraig Cwmni Mordeithio
  • Gweinydd
  • Cyfarwyddwr llong fordeithio
  • Curadur
  • Achubwr bywydau
  • Tywysydd teithio

Crëwch graff yn dangos cyfraddau cyflog y swyddi rydych chi wedi’u hymchwilio fel grŵp.