Pa mor hawdd mae cyrraedd lle
Mae hygyrchedd cyrchfan twristiaeth yn golygu pa mor hawdd yw ei gyrraedd. Er enghraifft, Llundain:
- mae yng nghanol nifer o brif feysydd awyr, gan gynnwys Heathrow a Gatwick
- mae nifer o draffyrdd a phriffyrdd yn arwain yno
- mae nifer o brif orsafoedd trenau yn cysylltu’r lle â gweddill Lloegr a Chymru
- mae trenau cyflym yn cyrraedd yno o ddinasoedd eraill yn Ewrop yn rheolaidd bob dydd
Mae hyn yn golygu bod Llundain yn gyrchfan hygyrch iawn. Mae hyn yn bwysig i bobl sy’n ymweld â Llundain ar eu gwyliau ond hefyd i’r nifer fawr o bobl fusnes sy’n ymweld â Llundain o bedwar ban byd.