Digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr ddenu llawer o dwristiaid i gyrchfannau. Gall digwyddiadau chwaraeon fel gemau pêl-droed neu rygbi pwysig ddenu llawer o filoedd o dwristiaid i gyrchfan. Mae digwyddiadau diwylliannol fel gwyliau a chyngherddau mawr hefyd yn gallu rhoi hwb i niferoedd y twristiaid. Er enghraifft, mae marchnadoedd Nadolig a digwyddiadau ‘gŵyl y gaeaf’ yn fwyfwy poblogaidd erbyn hyn mewn trefi a dinasoedd.