Diben yr arhosiad
Pam mae pobl yn penderfynu aros mewn cyrchfannau penodol?
Ar y cyfan, mae pobl yn teithio at ddibenion hamdden neu fusnes. Mae twristiaid hamdden yn aros oddi cartref er mwyn mwynhau ac yn teithio yn eu hamser rhydd eu hunain, felly mae eu hanghenion yn wahanol iawn i dwristiaid busnes sy’n teithio ac yn aros at ddibenion gwaith.