Bron â bod ym mhob achos, mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth gydweithio er mwyn arwain at ddatblygiad twristiaeth. Er enghraifft:
- Does dim pwynt adeiladu parc thema newydd os nad yw’r llwybrau trafnidiaeth yn ddigon da i alluogi ymwelwyr i gyrraedd yr atyniad yn hawdd.
- Does dim pwynt adeiladu gwesty newydd os nad oes unrhyw atyniadau yn yr ardal.
Wrth gydweithio, mae sefydliadau twristiaeth yn gallu datblygu perthnasoedd llwyddiannus sy’n arwain at ddatblygiad twristiaeth. Mae hyn yn helpu’r busnesau eu hunain a’r gymuned leol.
Mae stori'r perchennog gwesty isod yn dangos sut mae gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau twristiaeth eraill yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant busnes twristiaeth, ac arwain at ddatblygiad twristiaeth.