Meddyliwch am y gwaith wnaethoch chi ei gwblhau yn yr adran ddiwethaf. Dylech chi nawr fod â dealltwriaeth o beth mae datblygiad twristiaeth yn ei gynnwys, a’r amrywiaeth o sefydliadau sydd yn rhan o ddatblygiad twristiaeth.
Dylech chi hefyd ddechrau deall bod rhaid i sefydliadau twristiaeth weithio mewn partneriaeth a ffurfio perthnasoedd llwyddiannus os ydyn nhw am lwyddo.