Cyflwyniad
Mae gan y rhan fwyaf o gyrchfannau rai atyniadau mawr ac ystod eang o atyniadau eraill. Er enghraifft, yn Llundain mae Palas Buckingham, Big Ben, y London Eye a Sgwâr Trafalgar, ond mae cannoedd o leoedd eraill i ymweld â hwy hefyd. Bydd rhai atyniadau am ddim, a bydd rhaid talu am eraill. Mae rhai atyniadau’n naturiol, rhai wedi’u hadeiladu’n bwrpasol a rhai wedi troi’n atyniadau dros amser.
Mae atyniadau mawr fel parciau hamdden yn costio miliynau o bunnoedd i’w hadeiladu ac ni chânt eu hadeiladu heblaw bod y cwmni dan sylw’n siŵr y bydd yr atyniad yn gwneud elw.