2
Lansiwyd brand a logo newydd Dulyn yn Hydref 2015. Ar y pryd, cafodd Dulyn ei hadnabod fel ail hoff ddinas y byd mewn arolwg mawr. Crëwyd fideo newydd er mwyn dathlu’r wobr, sydd i’w gweld ar You Tube. Mae hwn, a fideos You Tube eraill, yn dangos i dwristiaid bod Dulyn yn ddinas gyfeillgar, a pham ei bod yn enwog am ei bywyd nos a’r awyrgylch parti. Bydd hyn yn helpu cynyddu apêl Dulyn – yn enwedig i gyplau a thwristiaid ifanc sy’n debygol o fynd i farrau a bwytai.

‘Cynllunio eich trip gwych nesaf ond yn cael trafferth dewis cyrchfan gwyliau? Gadewch i ni – eich ail hoff ddinas – gamu mewn! Fel y gwelwch o’n fideo newydd, Dulyn yw derbynnydd (balch) amrywiaeth anhygoel o acolâdau: ni yw Ail Ddinas fwyaf Cyfeillgar y Byd, yr Ail le Gorau i Americanwyr Fyw, a daethom yn ail ar gyfer Gwobr Gwyliau Dinas Flaenllaw Ewrop yn 2015. Ie, yn ail!’