Dull Cyflwyno

Llety

Gweithgaredd 2

Erbyn hyn, rydych yn deall bod llety yn amrywio mewn maint a mathau, a bod amrywiaeth o wahanol fathau o berchenogaeth yn dibynnu ar faint a graddfa.

Cymerwch amser i edrych ac ymchwilio un o’r darparwyr llety canlynol. Dewiswch naill ai:

  • InterContinental Hotels Group
  • Accor Hotels

Beth allwch chi ei ddweud am y darparwr llety rydych wedi’i ddewis?

Crëwch ffeil o ffeithiau yn cynnwys tua 200 gair a delweddau i gefnogi eich darganfyddiadau.

Dylech chi gynnwys:

  • Math o berchenogaeth?
  • Lleoliad?
  • Beth mae’r cwmni yn ei berchen? Un math o westy neu fathau gwahanol o fewn y brand?

Yw’r cwmni hwn yn gweithredu o fewn y DU yn unig?