Gweithgaredd
Ar You Tube fe welwch fideo o dan y teitl ‘The 5 Best Hotels in the World’. (Bydd clipiau tebyg).
Gwyliwch y fideo a gwnewch nodiadau am ansawdd y gwestai, ystafelloedd a chyfleusterau.
Dychmygwch petaech chi’n gallu fforddio aros yn un o’r gwestyau dan sylw. Beth fyddai’ch disgwyliadau chi? Sut fyddech yn treulio’ch amser yn y gwesty?
Ysgrifennwch am eich disgwyliadau o’r:
- Profiad yn y dderbynfa
- Ansawdd yr ystafell wely
- Y bwytai
- Y pwll
- Y cyfleusterau hamdden a sba
Ar gyfer un gwesty, ymchwiliwch i’w wefan a gwneud nodyn o gostau’r ystafelloedd.