Ar ôl cwblhau eich tabl, rydych yn barod yn awr i lunio eich eglurhad rhesymegol am y ffordd y mae’ch sefydliad dewisol yn bodloni disgwyliadau’r mathau o gwsmer a ddewiswyd gennych.
Dylech lunio cyflwyniad i’ch sefydliad dewisol ac yna ysgrifennu am ddisgwyliadau pob un o’ch grwpiau cwsmer yn eu tro, fel is-benawdau.
Ychwanegwch ddelweddau o’ch sefydliad dewisol yr ydych efallai wedi’u tynnu eich hun neu wedi’u cael ar wefannau. Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth arall o wefan eich sefydliad y teimlwch y bydd yn briodol.
Pan ysgrifennwch eglurhad, mae’n hawdd defnyddio’r gair oherwydd yn rheolaidd. Er enghraifft: Mae’r cwmni hedfan yn gweini diodydd am ddim i’r seddi dosbarth busnes oherwydd...
Mae’r wybodaeth isod yn rhoi syniadau am eiriau eraill yn lle defnyddio’r gair ‘oherwydd’ yn rhy aml.