Ar ôl cwblhau ymarfer ‘pa mor dda/gwael’ a thrafod eich atebion gydag eraill, ystyriwch y canlynol.
Beth fyddech chi’n ei wneud petaech chi’n rheolwr:
- y cyfleuster lle cwynodd y cwsmer am y toiledau ofnadwy
- y gwesty lle’r oedd y derbynnydd yn ddigywilydd
- y parc hamdden lle’r oedd gweithredwr y reid yn gymwynasgar
- y ganolfan weithgareddau lle rhoddwyd hyfforddiant ardderchog gan y staff yn y gweithgaredd abseilio.