Dull Cyflwyno

Gwasanaethau Cefnogi

Mae gwasanaethau cefnogi yn cynnwys sefydliadau fel VisitEngland neu Croeso Cymru, â’u prif swydd yw annog twristiaid i ymweld â’r wlad maen nhw’n ei gynrychioli er mwyn gwella cyfleusterau twristiaid. Maen nhw’n gweithredu ar lefel cenedlaethol; y llywodraeth sy’n eu hariannu, ac felly maen nhw’n perthyn i’w sector cyhoeddus.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai byrddau twristiaid lleol a rhanbarthol wedi cael eu disodli gan Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau, sy’n gweithredu ar sylfaen mwy masnachol er mwyn annog buddsoddiad twristiaeth.

Hefyd, mae Canolfannau Croeso yn perthyn i’r sector cyhoeddus ond yn cael eu hariannu gan gynghorau lleol ac yn gweithio ar lefel leol. Eu swydd yw marchnata a monitro ansawdd a datblygiad yr ardal benodol maen nhw’n gwasanaethu. Maen nhw’n rhoi gwybodaeth i ymwelwyr am lety, atyniadau twristiaeth, bwytai a thrafnidiaeth. Maen nhw’n darparu mapiau o’r dref a’r rhanbarth maen nhw’n gwasanaethu.