Dull Cyflwyno

Digwyddiadau

Mae yna amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn y DU sy’n atynnu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn amrywio o chwaraeon, cerddoriaeth a digwyddiadau busnes i wyliau diwylliannol a digwyddiadau elusennol.

Mae digwyddiadau fel cystadlaethau chwaraeon a gwyliau yn atynnu niferoedd mawr o dwristiaid mewnol a thwristiaid sy’n dod i mewn i’r wlad. Mae digwyddiadau rhyngwladol ar raddfa fawr fel y Gemau Olympaidd yn atynnu miliynau o dwristiaid, ac mae modd i bobl sydd ddim yn gallu teithio i’w gweld yn gallu eu gwylio ar eu teledu, sy’n hyrwyddo’r gyrchfan fel atyniad twristiaid sylweddol. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau mawr blynyddol y DU yn cynnwys:

  • Rygbi Chwe Gwlad
  • Y Grand National
  • Wimbledon
  • Y Grand Prix Prydeinig
  • Gŵyl Reading
  • Gŵyl Fringe Caeredin
  • Gŵyl Hay