Senario
Mae Mike a Rita wedi ffurfio partneriaeth er mwyn agor atyniad fferm ble mae ymwelwyr yn cael y cyfle i weld bwydydd yn cael eu cynhyrchu o gnydau sydd wedi’u tyfu ar y fferm. Enw’r atyniad yw Fferm Polly. Bydd plant yn cael eu diddanu gyda reidiau bach a theithiau o gwmpas y caeau ar dractor neu drelar. Mae Mike a Rita wedi gosod amcanion ar gyfer tair blynedd gyntaf gweithrediad y fferm, sy’n cynnwys:
- Dibynnu ar egni adnewyddadwy
- Defnyddio gweithwyr lleol
- Gwneud 15% o elw
- Agor ail fferm mewn gwahanol ran o’r wlad.
Mae Mike a Rita yn cynnal cyfarfod bob tri mis i adolygu eu gwaith a’r tebygolrwydd y byddan nhw’n cyrraedd eu hamcanion. Felly, bydd 12 cyfarfod yn cael eu cynnal dros gyfnod o dair blynedd.