Gweithgaredd 1
Eglurwch sut mae cyfraddau cyfnewid newidiol yn gallu cael effaith ar y busnesau canlynol:
- Gwesty bach mewn cyrchfan gwyliau glan y môr yn y DU.
- Trefnydd teithiau o’r DU sy’n mynd â grwpiau bach o dwristiaid i Ewrop.
- Atyniad mawr.
Wrth brynu arian cyfred i wario dramor, mae’n rhaid i dwristiaid gael rhyw fath o syniad o beth maen nhw’n gwario a faint mae pethau yn costio. Felly, mae cyfrifo gwerth arian cyfred dramor yn bwysig.
Gadewch i ni dybio mewn cyfnod o amser bod £1 â chyfradd gyfnewid o $1.35 ac 1.12 Ewro.
Er mwyn newid arian Prydeinig i arian tramor, mae’n rhaid defnyddio’r fformiwla ganlynol:
Arian cyfred tramor = Arian cyfred Prydeinig x Cyfradd gyfnewid
Felly, o ystyried y cyfraddau cyfnewid uchod:
Ar gyfer £100, byddai twrist yn derbyn
135 (£100 x 1.35) a 112 Ewro (£100 x 1.12)