Dull Cyflwyno

Ffactorau Cymdeithasol

Gweithgaredd 1

Ymchwiliwch atyniadau eraill i weld beth yw eu polisi ynglŷn ag aelodaeth teulu.

  •  Oes gan wahanol atyniadau reolau gwahanol?
  •  Beth ydych chi’n credu yw manteision ac anfanteision y polisi sy’n cael ei ddangos uchod?

Un o’r newidiadau cymdeithasol mwyaf arwyddocaol yn y DU yw poblogaeth sy’n heneiddio. Mae pobl yn byw am gyfnod hirach ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau twristiaeth, mewn sawl achos, nes eu bod yn eu 80au. Mae sefydliadau twristiaeth wedi gorfod datblygu cynhyrchion newydd er mwyn diwallu’r galw hwn. Hefyd, os yw person yn hen, dydy hynny ddim yn golygu bod ganddyn nhw anghenion arbennig!

Mae’r tabl isod wedi’i gymryd o ffigurau’r llywodraeth sy’n dangos pa mor hir y disgwylir i ddyn neu ddynes sydd wedi’u geni mewn unrhyw flwyddyn i fyw ar gyfartaledd. Mae’r tabl hefyd yn amcangyfrif sut mae’r ffigur hwn, sef disgwyliad oes, yn debygol o gynyddu yn y dyfodol.