Oes gan bawb sy’n gweithio yn niwydiant twristiaeth y DU hawl i wyliau?
Yn ôl y gyfraith, mae gan bob gweithiwr hawl i wyliau. Mae’r cyfanswm rydych chi’n derbyn fel arfer yn cael ei amlinellu yn eich contract cyflogaeth. Y lleiafswm statudol yw 5.6 wythnos, sy’n gallu cynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.
Byddai’n fanteisiol i chi ddeall hawliau gwyliau sylfaenol gwahanol fathau o weithwyr.
Mae yna hawl leiafswm ar gyfer gwyliau â thâl, ond gall y cyflogwr gynnig mwy na hyn. Y prif bethau dylech chi wybod am hawliau gwyliau yw:
- mae gyda chi hawl i gael 5.6 wythnos o wyliau blynyddol wedi’u talu (28 diwrnod i rai sy’n gweithio pum diwrnod yr wythnos)
- mae’r rheini sy’n gweithio rhan amser gyda hawl ar gyfer yr un lefel o wyliau ar gyfartaledd. Ar hyn o bryd, mae hyn 5.6 gwaith y wythnos weithio arferol, er enghraifft 22.4 diwrnod ar gyfer rhywun sy’n gweithio pedwar diwrnod y wythnos
- rydych yn dechrau adeiladu amser gwyliau pan rydych yn dechrau gweithio
- gall eich cyflogwr reoli pryd y gallwch chi gymryd eich gwyliau
- rydych yn derbyn cyflog arferol ar gyfer eich gwyliau
- pan rydych yn gorffen swydd, rydych chi’n cael eich talu am unrhyw wyliau nad ydych chi wedi’u cymryd
- mae gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yn gallu cael eu cynnwys yn eich hawl lleiafswm
- rydych yn parhau i gael hawl i’ch gwyliau drwy gydol eich cyfnod arferol a mamolaeth, a chyfnod tadolaeth a mabwysiadu.
Nid oes gan bobl hunangyflogedig hawl i dâl gwyliau. Maen nhw’n gallu cymryd gymaint o amser o’u gwaith ag y maen nhw'n dymuno, ond dydyn nhw ddim yn derbyn ceiniog am unrhyw ddiwrnod maen nhw’n colli. Felly, er nad ydyn nhw’n cael didyniadau am dâl gwyliau allan o’u cyflogau, oni bai eu bod yn gwneud eu cyfraniadau eu hunain i gynllun arbed, dydyn nhw ddim yn derbyn unrhyw arian am amser gwyliau sydd wedi’i gymryd. Yn amlwg, mae gan hyn ei fanteision a’i anfanteision.