Atyniadau Adeiledig
Nid oes gan Ddulyn ystod eang o atyniadau adeiledig modern fel parciau hamdden a pharciau dŵr. Golyga hyn nad yw Dulyn yn gyrchfan poblogaidd iawn i deuluoedd gyda phlant ifanc. Fodd bynnag, gallai’r grŵp hwn ymweld â Sw Dulyn a gallai’r Amgueddfa Coblynnod fod o ddiddordeb i rai.
Atyniadau hanesyddol a diwylliannol yn bennaf sydd yn Nulyn. A hithau’n brifddinas, mae Amgueddfa Genedlaethol ac Oriel Genedlaethol Iwerddon ymhlith ei hatyniadau. Mae Castell Dulyn, Eglwys Gadeiriol Christ Church a Llyfrgell Coleg y Drindod hefyd yn atyniadau poblogaidd sy’n denu twristiaid sydd am archwilio hanes a diwylliant Iwerddon.
Mae’r tabl isod yn dangos yr atyniadau mwyaf poblogaidd sydd am ddim ac sy’n codi tâl yn Nulyn yn 2016.
Ymhlith yr atyniadau mwyaf poblogaidd mae Carchar Kilmainham. Dyma’r wybodaeth am y carchar a geir ar y wefan:
Agorodd Carchar Kilmainham yn 1796 yn Garchar Sirol newydd i Ddulyn. Caeodd ei ddrysau ym 1924.
Erbyn hyn mae’r adeilad yn symboleiddio traddodiad cenedlaetholdeb milwriaethus a chyfansoddiadol o wrthryfel 1798 i Ryfel Cartref Iwerddon yn 1922-23. Cafodd arweinwyr gwrthryfeloedd 1798, 1803, 1848, 1867 a 1916 eu caethiwo yma ac weithiau eu dienyddio. Caethiwyd hefyd yng Ngharchar Kilmainham lawer o aelodau mudiad Gweriniaethwyr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Eingl-Wyddelig (1919-21), dan warchodaeth minteioedd Prydeinig. Bydd enwau fel Henry Joy McCracken, Robert Emmet, Anne Devlin, Charles Stewart Parnell ac arweinwyr 1916 bob amser yn gysylltiedig â’r adeilad.
Fodd bynnag, dylid cadw mewn cof fod Kilmainham, yn garchardy sirol, hefyd yn cadw miloedd o ddynion, menywod a phlant cyffredin. Amrywiai eu tramgwyddau o fân droseddau fel dwyn bwyd i droseddau mwy difrifol fel llofruddiaeth neu drais rhywiol. Byddai troseddwyr o lawer rhan o Iwerddon yn cael eu cadw yma am gyfnodau maith yn disgwyl cael eu cludo i Awstralia.
Mae llawer o ymwelwyr â Dulyn wedi’u cyfareddu gan hanes yr adeilad. Mae’n costio 8 ewro am daith dywysedig o’r adeilad, ond rhaid i chi archebu lle ymlaen llaw. Yn 2016, cafodd y carchar bron 400,000 o ymwelwyr. O ystyried bod y tâl mynediad yn weddol rad, mae llawer o dwristiaid yn debygol o gynnwys ymweliad â’r carchar yn ystod eu harhosiad.
Yr atyniad mwyaf poblogaidd yn Nulyn yw Stordy Guinness. A dweud y gwir, hwn yw’r atyniad mwyaf poblogaidd yn Iwerddon, a ddenodd 1,667,000 o ymwelwyr yn 2016. Guinness yw’r cwrw tywyll enwog a werthir dros y byd i gyd. Codwyd adeilad arbennig i ddarparu nifer o wahanol brofiadau i’r ymwelydd, sy’n dechrau o 17.50 ewro os archebir lle ymlaen llaw.
Mae’r hysbyseb ar gyfer profiad Stordy Guinness yn honni:
Cewch wybod sut yn union mae gwneud cwrw unigryw Guinness®. O’n rhywogaeth enwog o furum i frwdfrydedd cyffredin ein holl fragwyr, awn yn hynod o bell i gynhyrchu cwrw du gorau’r byd i chi. Dewch i gael gwybod rhagor am ein dylanwad ar ddinas Dulyn.
Hefyd, mae llawer o sgwariau cyhoeddus a mannau agored i dwristiaid grwydro drwyddynt. Mae’r rhain yn cynnwys tir y Gerddi Botaneg. Y sgwâr enwocaf yw St Stephen’s Green. Am fod yr atyniadau hyn yn rhad ac am ddim, maent yn boblogaidd gyda llawer o dwristiaid.
Canolbwynt bywyd nos enwog Dulyn yw Temple Bar. Mae’r ardal hon i’r de o Afon Liffey ac mae yma rwydwaith o strydoedd yn llawn o dafarnau, clybiau nos a bwytai sy’n orlawn o bobl leol a thwristiaid bob nos.
Yr ardal bwysig arall sy’n werth sôn amdani yw Grafton Street, sef y brif ardal siopa yn y ddinas.