Gwahanol fathau o dwrist
Hamdden
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ymweld ag Iwerddon naill ai ar eu gwyliau neu’n ymweld â ffrindiau a pherthnasau. Mae llawer o’r ymwelwyr hyn yn cynnwys ymweliad â Dulyn. Ceir tua 7,000,000 o ymweliadau hamdden ag Iwerddon a dim ond 1,350,000 o ymweliadau busnes. Fel y gellir ei weld o’r ffigurau ar dudalennau 2 a 3, mae llawer o ymwelwyr yn mwynhau’r atyniadau sy’n codi tâl yn Nulyn, fel Stordy Guinness yn ogystal â’r atyniadau am ddim, fel yr Oriel Genedlaethol a’r Gerddi Botaneg.
Oherwydd lleoliad Dulyn, gall twristiaid fwynhau ystod o weithgareddau naill ai ar hyd arfordir Bae Dulyn neu ym Mynyddoedd Wicklow i’r de o’r ddinas. A hithau’n ddinas fechan, hawdd yw gadael Dulyn i gyrraedd yr atyniadau yn yr ardal o’i chwmpas.
Busnes
Mae llawer iawn o fasnachu rhwng Iwerddon a’r DU. Rhaid i bobl fusnes ymweld yn fynych â Dulyn i fynd i gyfarfodydd a chynadleddau. Mae llawer o feysydd awyr yn y DU y gall pobl fusnes hedfan ohonynt i Ddulyn, sy’n beth da. Fodd bynnag, un o broblemau Dulyn yw prinder ystafelloedd gwesty. Mae hyn yn golygu bod gwestyau’n tueddu i fod yn ddrud. Hefyd, nid oes gan Ddulyn lawer o leoliadau cynadledda mawr, felly ni all gynnal cyfarfodydd busnes mawr.