Dull Cyflwyno

Rhoi’r Cyfan ar Waith

Ar ôl gweithio drwy’r ddwy adran gyntaf yn yr uned hon (AC 1.1 ac AC 1.2) rydych yn barod bellach i ddefnyddio’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o apêl cyrchfannau twristiaeth i ddangos sut mae un cyrchfan yn apelio at dwristiaid.

Dylech fod wedi astudio enghraifft Dulyn yn Adnodd 3 i weld yr hyn sy’n ofynnol.

Cofiwch ymdrin â’r holl bwyntiau yn y tabl isod a cheisio llunio eglurhad yn hytrach na disgrifiad.                

Mae angen i chi gynnwys:

  • Enw’r cyrchfan – arfordirol, gwledig neu dref/dinas
  • Lleoliad
  • Hygyrchedd  
  • Atyniadau naturiol
  • Atyniadau adeiledig
  • Llety         
  • Nodweddion eraill
  • Nodweddion twristiaid       
  • Mathau o dwrist