Ar ôl gweithio drwy’r ddwy adran gyntaf yn yr uned hon (AC 1.1 ac AC 1.2) rydych yn barod bellach i ddefnyddio’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o apêl cyrchfannau twristiaeth i ddangos sut mae un cyrchfan yn apelio at dwristiaid.
Dylech fod wedi astudio enghraifft Dulyn yn Adnodd 3 i weld yr hyn sy’n ofynnol.
Cofiwch ymdrin â’r holl bwyntiau yn y tabl isod a cheisio llunio eglurhad yn hytrach na disgrifiad.
Mae angen i chi gynnwys:
- Enw’r cyrchfan – arfordirol, gwledig neu dref/dinas
- Lleoliad
- Hygyrchedd
- Atyniadau naturiol
- Atyniadau adeiledig
- Llety
- Nodweddion eraill
- Nodweddion twristiaid
- Mathau o dwrist
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.3-Adnodd4.docx