Dull Cyflwyno

Bwyd ar gyfer gwahanol ddiwylliannau

Gweithgaredd

Dychmygwch eich bod yn rheolwr arlwyo mewn gwesty rhyngwladol mawr a’ch bod yn cynllunio arlwyo i bobl o bedwar ban byd sy’n mynychu cynhadledd.

Awgrymwch beth allech chi ei ddarparu ar y fwydlen i fodloni anghenion pobl o’r gwledydd a restrir isod. Nodwch ddwy frawddeg i grynhoi pa ‘fwyd traddodiadol’ y bydd pobl o bob gwlad efallai’n hoffi ei gael a’r hyn na chaniateir iddynt ei fwyta efallai oherwydd eu crefydd.                              

(Efallai yr hoffech wneud ymchwil i fwydydd traddodiadol o wahanol wledydd a’r mathau o fwyd na chaniateir i bobl o wahanol grefyddau ei fwyta efallai).