Dull Cyflwyno

Bwyd ar gyfer gwahanol ddiwylliannau

Mae sefydliadau twristiaeth yn fwyfwy ymwybodol fod angen iddynt fodloni anghenion cwsmeriaid o wahanol ddiwylliannau. Un enghraifft dda o’r ffordd y bu gwahanol ddiwylliannau’n cymysgu dros y blynyddoedd diwethaf yw’r amrywiaeth o fwyd a ddarperir gan wahanol sefydliadau twristiaeth.                       

Mae rhai twristiaid yn hoff o roi cynnig ar wahanol fwydydd wrth deithio ac mae rhai bwydydd bellach yn gysylltiedig â gwahanol ddiwylliannau a chenhedloedd.