Dull Cyflwyno

Gwerthu ‘ychwanegion’

Gall sefydliadau twristiaeth wneud mwy o arian drwy werthu cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol. Un enghraifft dda o hyn yw cwmnïau hedfan, sy’n aml yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol am gost ychwanegol.

Gan amlaf, mae’r rhyngweithio rhwng y cwsmer a sefydliadau twristiaeth fel cwmnïau hedfan yn digwydd bellach drwy wefan, ond yr un yw’r syniad o hyd, sef gwerthu eitemau ychwanegol i gynyddu refeniw.